Crynodeb o’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon Archwiliedig ar gyfer 2010/2011
Adroddiad Blynyddol
Mae’r Ymddiriedolaeth yn cynnig grantiau o dan nifer o benawdau arbennig. Gwelir isod grynodeb o’r hyn a dalwyd o dan y penawdau hyn:
| Pwrpasau Crefyddol | £15,365 |
| Adeiladau Crefyddol | £95,500 |
| Pwrpasau Addysgiadol (Myfyrwyr) | £87,260 |
| Elusennau Cofrestredig | £22,880 |
| Eisteddfodau | £65,634 |
| Prosiectau Arbennig | £37,538 |
| Urdd Gobaith Cymru | £10,140 |
| £334,317 |
Talwyd grantiau i dri deg a dwy o eglwysi unigol i’w cynorthwyo gyda’r gwaith o atgyweirio a gwella eu hadeiladau. Talwyd y grant uchaf o £10,000 i’r Eglwys Unedig Ddiwygiedig yng Nghasnewydd a thalwyd grantiau o £5,000 yr un i Ganolfan Dewi Sant yn Abergele ac i’r Eglwys Fethodistaidd yn Rhymni, Caerdydd. Mae’r Ymddiriedolwyr yn parhau i ffafrio ceisiadau lle mae arwyddion pendant o gydweithio rhwng enwadau, a lle gosodir pwyslais ar waith cenhadol a chymunedol.
Ymhlith elusennau cofrestredig rhoddwyd y grantiau uchaf i Ganolfan Nant Gwrtheyrn, Hospis Plant Tŷ Gobaith a Llyfrgell Gladstone ym Mhenarlâg.
Talwyd grantiau o’r Gronfa Prosiectau Arbennig i gynorthwyo gwaith ymhlith yr ifanc gyda eglwysi lleol – yn ardaloedd Llandudno, Eco’r Wyddfa, Sir Gaerfyrddin a Gogledd Ceredigion.
Rhoddwyd hefyd grantiau i saith ar hugain o fyfyrwyr uwchraddedigol i dalu eu costau hyfforddiant – hyd at uchafswm o £7,000 ymhob un achos.
Cyfrifon Archwiliedig
Cyfanswm y derbyniadau yn 2010/11 oedd £450,289 (2009/10 - £424,085). Cyfanswm y gwariant elusennol uniongyrchol oedd £444,942 (2009/10 - £412,142) a chyfanswm y costau gweinyddol oedd £4,053 (2009/10 - £4,124).
Daw incwm blynyddol yr Ymddiriedolaeth o Gronfa Gwaddol Parhaol lle adolygir y cynnwys yn reolaidd. Mae’r Gronfa hon yn cynnwys amrywiaeth o ddaliadau – cyfranddaliadu, stocial llogau sefydlog, eiddo ac arian. Nid yw’r gronfa hon ar gael i’w dosbarthu; yn hytrach yr incwm a ddaw ohoni yn flynyddol sy’n cael ei ddosbarthu. Gwerth y gronfa ar ddiwedd 2010/11 oedd £11,395,143 (2009/10 - £9,544,500) yn adlewyrchu gwerthu ffarm oedd yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth ynghyd a pheth gwelliant yng ngwerth marchnatoedd stoc byd-eang.
Mae gallu yr Ymddiriedolaeth i barhau i ddarparu grantiau, ac hefyd parhau i dalu grantiau sy’n codi mewn gwerth mewn ymateb i chwyddiant yn dibynnu i raddau helaeth ar twf yng ngwerth y Gronfa Gwaddol Parhaol. Gan hynny, mae’r strategaeth buddsoddi yn ceisio sicrhau cynnydd yn yr incwm blynyddol. Hefyd o bryd i’w gilydd mae’r Ymddiriedolaeth yn derbyn nifer o roddion a chymynroddion, rhai ohonynt gan unigolion a elwodd o gymorth yr Ymddiriedolaeth mewn blynyddoedd cynt. Mae’r Ymddiriedolaeth yn parhau i groesawu rhoddion ariannol o’r mathau hyn. Rhoddir sylw priodol i’r fath haelioni a buddsoddir yr arian er mwyn gwella’r llif incwm er lles unigolion a sefydliadau yng Nghymru.
******************************
Os ydych yn dymuno cael copi o Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolaeth a/neu copi o’r Cyfrifon Archwiliedig byddwch cystal a chysylltu â Swyddfa’r Ymddiriedolaeth. Mae’r manylion cysylltu i’w gweld ar dudalen hafan y wefan.



