Rhai buddiolwyr diweddar

Eglwys Unedig Llandudno
Wrth cynnig grantiau ar gyfer atgyweirio a gwella adeiladau eglwysig rhoddir rhywfaint o flaenoriaeth i rannu adeiladau. Gall hyn olygu nifer o draddodiadau yn dod ynghyd mewn cynulleidfa unedig (e.e. Llandudno) neu defnydd o'r un adeilad gan dau neu fwy o'r traddodiadau gwahanol. Blaenoriaeth arall yw datblygu'r adeiladau eglwysig fel ffocws ar gyfer gwaith yr eglwys yn y gymuned. Enghreifftiau diweddar yw llwyddiant aelodau Eglwys Sant Theodore ym Mhort Talbot i greu canolfan newydd ar gyfer yr ieuenctid a'r gymuned, ynghyd a datblygiad Neuadd Eglwys Annibynnol y Tabernacl, Porthcawl i greu gwell adnodd ar gyfer gofynion y gymuned.

Agorial Neuadd Tabernacle, Porthcawl
Nid yw safonau pensaernïol o'r pwys mwyaf ond, yn hytrach, bywyd a chenhadaeth yr eglwys. Canlyniad hyn yw ein bod yn cefnogi adeiladau o ddulliau pensaernïol amrywiol o'r adeiladau mwyaf hanesyddol (cyn y Diwygiad Protestanaidd) i'r capeli anghydffurfiol mwy traddodiadol (e.e. Capel Tegid, y Bala) i Ganolfannau Eglwysig mwy diweddar eu harddull i adeiladau sydd at wasanaeth grwpiau Cristnogol sydd mewn lleiafrif yng Nghymru (e.e. Tŷ Cwrdd y Crynwyr yn Llandeglau).

Ty Cwrdd y Crynwyr y Pales

Neuadd Gymunedol Port Talbot

Capel Tegid
Pan yn dosbarthu arian i elusennau cofrestredig rhoddir pwyslais ar waith ymhlith pobl ifainc. Nid yw yn syndod felly bod yr Urdd wedi elwa yn sylweddol dros y blynyddoedd gan gynnwys cymorth i Eisteddfodau ac i brosiectau yng Nglanllyn a Llangrannog ac, yn fwy diweddar, i waith yr Urdd yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd. Estynwyd cymorth hefyd i Valleys Kids. Prosiect yng Nghwm Rhondda yw hwn a ddechreuwyd yn 1978. Mae yn cynnig bellach amrywiaeth o gyfleon yn bennaf ar gyfer pobl ifainc o fewn un o'r ardaloedd mwyaf difrientiedig yng Nghymru.
Mae cannoedd o unigolion hefyd wedi derbyn o goffrau'r Ymddiriedolaeth dros y blynyddoedd.

Dr. Paul Joyner
Mae nifer sy'n diddori yn y celfyddydau perfformio a chreadigol hefyd wedi derbyn cymorth, ac yn parhau i wneud. Mae'r rhestr yn cynnwys nifer o enwogion y genedl, sef Rhys Meirion, Aled Hall, Fflur Wyn, Cefyn Burgess a Fiona Phillips (GMTV). Mae John Meirion Morris yn enwog fel cerflunydd Derbyniodd John gymorth i sefydlu ei hun fel cerflunydd proffesiynol ac i gwblhau traethawd MA. Gwelir yma enghraifft o'i waith diweddar, sef cerflun o Gwyn Thomas, cyn Athro y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ac yn Fardd Cenedlaethol Cymru.

Teifi Pools

Aled Hall

Portread o Gwyn Thomas

Tim Jenkins



