James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Capel Hermon, Cynwyl Elfed

Mae Eglwys Hermon wedi gwneud llawer o waith atgyweirio ar yr adeilad dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn ystod 2018, penderfynwyd gosod ffenestri newydd, llanw’r craciau yn y waliau a phaentio’r cyfan, addasu’r fynedfa i’w gwneud yn addas i’r anabl, ac ail-blastro yn dilyn yr holl niwed a achoswyd gan leithder. Casglwyd llawer o arian gan aelodau a ffrindiau o’r eglwys, cyfranwyd yn hael mewn nwyddau a llafur, a derbyniwyd grant gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen tuag at y gwaith.

Mae hon yn eglwys fywiog ag iddi ysbryd mentrus, a chred yr aelodau fod cael adeilad glân, taclus a hygyrch yn rhan bwysig o genhadaeth yr Eglwys, i ddenu pobl i mewn i addoli ac i hybu defnydd o’r lle gan y gymuned ar gyfer pob math o weithgareddau.