James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Capel Bro Tegla, Llandegla

Yn ystod Mis Rhagfyr 2021, gyda chymorth hael grant Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, gosodwyd system loop ac uchelseinyddion yng Nghapel Bro Tegla, Llandegla. Bydd yr offer yn gaffaeliad mawr i fynychwyr yr adeilad ac yn adnodd ymarferol gwerthfawr i’r rhai sydd yn drwm eu clyw. Yn ogystal, y bwriad yw gwneud defnydd o’r Bluetooth fydd yn eu galluogi i gyflwyno cenhadaeth mewn ffyrdd newydd ac amrywiol, gan fod hefyd yn adnodd ychwanegol i grwpiau eraill o’r gymuned sy’n gwneud defnydd o’r adeilad.