James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys Gloddaeth, Llandudno

Rhoddwyd grant i Eglwys Unedig Gloddaeth yn Llandudno er mwyn ailwneud yr adeilad a sicrhau ei fod yn hygyrch i bawb. Golygai’r gwaith dynnu’r seddi, lefelu’r llawr, uwchraddio’r toiledau a’r gegin, creu ystafell dawel/weddi a swyddfa. Cafodd Eglwys Gloddaeth ei sefydlu yn dilyn uno cangen Llandudno o Eglwys Bresbyteraidd Cymru a’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig leol, Christ Church, ac mae’r prosiect a gwblhawyd ganddynt yn arddangos yn glir genhadaeth ysbrydol ac ymarferol yr eglwys o fewn ei chymuned.