James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys San Mihangel, Caerwys

Cyflwynodd Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen grant i wella cyfleusterau Eglwys San Mihangel, Caerwys, er mwyn i’r eglwys allu rhoi lle i gynulleidfaoedd sy’n tyfu, gweithgareddau eciwmenaidd a mwy o ymwneud cymunedol. Mae’r prosiect wedi darparu toiledau a chegin, wedi gwella’r gwres, wedi gwella’r cyfleusterau goleuo a chlyweled er mwyn i bobl glywed a gweld yn haws. Mae’r prosiect hefyd wedi darparu seddi a lloriau newydd ac wedi sicrhau gwell gofod yn y gangell drwy adleoli sgrin isel a symud rhai o’r corau.

Yn ystod camau cynnar y gwaith, daethpwyd o hyd i ambell fosaig Fictorianaidd a theilio o safon uchel, a gofalwyd fod yr adeiladwyr yn adfer y cyfan yn ofalus iawn. Roedd fel petai’r prosiect yn dadlennu nodweddion newydd sbon ac yn annog y gynulleidfa i weld rhai elfennau a gymerwyd mor ganiataol mewn goleuni newydd.

Yn ôl Roland Ward, Warden yr Eglwys, “roedd grant James Pantyfedwen yn amserol dros ben ac fe’n galluogodd i gyfuno holl elfennau’r prosiect. Mae’r eglwys yn gweithio’n wych i ni ar ei newydd wedd, ac mae hefyd yn ysbrydoliaeth werthfawr”.