James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys Sant Tybie, Llandybie

Derbyniodd Eglwys San Tybie yn Llandybie grant gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen a nifer o ymddiriedolaethau a sefydliadau eraill er mwyn symud rhai o’r corau ym mlaen y capel a gosod adnoddau cegin sylfaenol. Mae cwblhau’r prosiect hwn wedi creu mwy o ofod hyblyg ym mlaen y capel sydd yn gwneud defnydd gwell o’r adeilad ac wedi cynyddu agweddau cymdeithasol yr addoliad. Bellach mae’r adnoddau’n fwy hylaw ar gyfer yr anabl, ceir cyfleusterau gwell ar gyfer dathliadau teuluol megis priodasau a bedyddiadau, a gwelir gobeithio mwy o ddefnydd cymunedol o’r eglwys.