James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Capel Bethel, Drefach

Gwnaeth Bethel, Capel y Bedyddwyr, Drefach, Felindre, gais am arian i’w cynorthwyo i adnewyddu cafnau dŵr a phibellau dŵr ar un rhan o’r capel a’r festri ac adnewyddu mur yn y capel. Bu rhaid defnyddio’r festri fel man addoliad am saith mis tra gwnaethpwyd y gwaith ar y capel, ond braf yw adrodd i’r gynulleidfa allu cynnal oedfa arbennig fis Mawrth lle cafodd yr aelod hynaf sy’n mynychu y fraint o droi’r allwedd er mwyn ail-ddefnyddio’r capel i addoli.