Dechreuadau a Hanes yr Ymddiriedolaeth
Yr Ymddiriedolaeth bresennol
Daeth Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen i fod ar y 1af o Ebrill 1998 pan sefydlwyd Cynllun newydd a dderbyniodd fendith y Comisiwn Elusennau. Ond mae'r Ymddiriedolaeth hon yn ddilyniant i ddwy ymddiriedolaeth flaenorol - Ymddiriedolaeth Catherine a'r Fonesig Grace James (sefydlwyd yn 1957) ac Ymddiriedolaeth John a Rhys Thomas James (sefydlwyd yn 1967). Sefydlwyd y ddwy ymddiriedolaeth gan y diweddar Syr D J James gyda'r bwriad o greu gwaddol parhaol er budd pobl Cymru. Rhoddwyd enwau ei fam (Catherine James) a'i wraig (y Fonesig Grace James) i'r ymddiriedolaeth gyntaf ac enwau ei dad (John James) a'i frawd (Rhys Thomas James) i'r ail.
Mae'r Cynllun Elusennol ynghyd 'r Cynllun Lleol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth yn parhau i gynnwys nifer o ddymuniadau a blaenoriaethau y diweddar Syr D J James, ond mae'r dogfennau hyn hefyd yn adlewyrchu'r ffaith bod gofynion Cymru heddiw, i ryw raddau, yn wahanol i'r hyn a gafwyd sylw pan sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth gyntaf yn 1957. Un wedd o bwys sy'n ddi-newid ers y cychwyn yw'r amodau ar gyfer unigolion sy'n chwilio am nawdd ar gyfer costau gwaith uwch-raddedigol. Mae'r amodau llawn i'w gweld fel rhan o'r canllawiau ar gyfer ymgeiswyr (i'w gweld mewn fformat pdf ar y wefan hon).
Y noddwr - Syr D J James

Syr D J James
Roedd ei ddiddordebau busnes yn niferus ac yn amrywiol, gan gynnwys llaeth, gwenith, grawn bragdy a bwydydd anifeiliaid. Ond cofir ef yn bennaf am ei ymwneud a sinemau. Mentrodd i'r maes hwn yn 1920 wrth agor y 'super cinema' cyntaf yn Llundain (y Palladium yn ardal Palmers Green) gyda eisteddleoedd i fwy na 2,000. Ar un adeg roedd yn berchennog ar tri ar ddeg o'r sinemau hyn ac diau y mwyaf adnabyddus ohonynt oedd Stiwdio 1 a 2 yn Oxford Street.

Y Fonesig Grace James
Mewn ymateb i'w haelioni dyfarnwyd iddo nifer o anrhydeddau gan gynnwys ei wneud yn farchog yn 1959, gradd LL D er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1957 a Rhyddid Bwrdeistref Aberystwyth yn 1964.
Pan sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth gyntaf yn 1957 roedd Syr David yn glir ei weledigaeth mai pobl Cymru oedd i elwa. Gweinyddwyd yr Ymddiriedolaeth am y ddeng mlynedd gyntaf o'i swyddfeydd yn Llundain. Ond gwelodd hyn fel rhywfaint o baradocs, a bu wrthi yn chwilio am safle priodol yn Aberystwyth ar gyfer swyddfeydd newydd. Daeth o hyd i leoliad yn Stryd y Farchnad a chwaraeodd ran amlwg yn y broses o gynllunio ar gyfer yr adeilad newydd. Ond bu farw yn 1967 ychydig fisoedd cyn agoriad swyddogol y swyddfeydd yn 1968. Mae'r adeilad a gynllunwyd gan Syr David, ac arianwyd ganddo, yn gartref i waith yr Ymddiriedolaeth hyd heddiw.
Bu Syr David yn ymwneud â materion busnes hyd y diwedd er bod graddfa yr ymwneud hwn wedi lleihau tipyn erbyn diwedd ei fywyd. Yn y blynyddoedd olaf bu'r Fonesig Grace James ac yntau yn byw yn Sutton Hall ger Barcombe yn swydd Sussex er iddynt barhau i ymweld a Chymru a Llundain yn achlysurol. Bu farw y Fonesig Grace James yn 1965.



