Welsh Flag Cymraeg English Flag English

Croeso i Ymddiriedolaeth
James Pantyfedwen

Cytunwyd gyda'r Comisiwn Elusennau ar Gynllun rheoli gwaith yr Ymddiriedolaeth yn Ebrill 1998. Mae'r ddogfen hon yn gosod allan amcanion yr Ymddiriedolaeth fel a ganlyn:

“ ... hybu a hyrwyddo crefydd, addysg, y Celfyddydau ac amaethyddiaeth a phwrpasau elusennol eraill er budd y Cymry, yn bennaf yng Nghymru”.

Yn ymarferol dehonglir yr amcanion hyn yn y dulliau isod:

  1. elusennau cofrestredig
  2. myfyrwyr ar gyfer astudiaethau uwchraddedigol, yn bennaf gwaith ymchwil, a myfyrwyr ar gyfer y Weinidogaeth Gristnogol
  3. prosiectau arbennig lle mae'r pwyslais yn eciwmenaidd
  4. Ysgolion Sul
  5. Eisteddfodau
  6. eglwysi unigol ar gyfer atgyweirio a/neu gwella adeiladau eglwysig

Mae'r wefan yn cynnwys canllawiau ar gyfer pob un o'r uchod - mewn fformat pdf. Yr ydym yn eich cynghori i ddarllen rhain yn ofalus er mwyn cadarnhau bod eich prosiect yn dod o fewn cwmpawd yr Ymddiriedolaeth. Mae modd hefyd dod o hyd i gopi o'r ffurflen gais briodol ar y wefan, eto mewn fformat pdf. Ond nid oes ffurflenni ar gyfer eglwysi lleol ar gael ar y wefan gan bod y broses o gyflwyno'r ffurflenni hyn yn amrwyio yn unol â phatrwm enwadol yr eglwys. Os ydych am gael ffurflen ar gyfer gwaith atgyweirio/gwella mewn eglwys unigol bydd angen cysylltu â swyddfa'r Ymddiriedolaeth. Mae modd gwneud hyn trwy'r post, ffôn, ffacs, neu e-bost. Rhestrir y manylion cysylltu isod:

Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen
Pantyfedwen, 9 Stryd y Farchnad, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1DL

Ffôn: 01970 612806
Ffacs: 01970 612806
e-bost:

Gofynnir i bawb cyflwyno eu ffurflenni cais trwy'r post (gwelir y cyfeiriad uchod). Nid ydym yn croesawu cyflwyno ffurflenni cais mewn dull electronig gan bod angen defnyddiau a gwybodaeth eraill yn ogystal.

Am unrhyw ymholiad yn ymwneud â'r Ymddiriedolaeth - ffurflenni cais ac ati - byddwch cystal a chysylltu â Richard Morgan (Ysgrifennydd Gweithredol) neu Nel Williams (Ysgrifennydd y Swyddfa).