James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys Undodaidd Highland Place, Aberdar

Mae Eglwys Undodaidd Highland Place yn eglwys fyw a chroesawgar, sy’n datgan yn glir nad oes angen i neb deimlo’n estron o’i mewn. Mae’n eglwys weithgar mewn ardal ddinesig a difreintiedig, lle trefnir grwpiau defosiynol a boreau coffi i roi cyfle i famau ifainc gyfarfod â chymdogion hŷn – gofod saff a chroesawgar ac mae’r gymuned yn wirioneddol werthfawrogi cyfraniad cadarnhaol yr eglwys. Gwnaed cais i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen er mwyn trwsio darnau o’r to a rhoi sylw arbenigol i fur blaen yr eglwys, oedd yn dioddef o leithder difrifol iawn.