James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys Apostolaidd Bethel, Caerfyrddin

Cyflwynodd Eglwys Apostolaidd Bethel, Caerfyrddin, gais am gymorth er mwyn prynu adeilad newydd o’r enw Hill House, a oedd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru fel gofod swyddfa. Roedd y prosiect yn cynnwys ailgynllunio ac ailadeiladu’r gofod mewnol i ddarparu un ystafell gyfarfod fawr ar y llawr uchaf gyda golau a system sain a chlywedol addas, a gosod toiledau a chegin hygyrch ar y llawr gwaelod ynghyd â nifer o ystafelloedd cyfarfod o wahanol faint ar gyfer gweithgareddau grwpiau’r eglwys a hyrwyddo defnydd y gymuned ehangach.

“Rydym wrth ein boddau o symud mewn i’r adeilad newydd, a hoffem ddiolch yn fawr iawn i Bantyfedwen am y grant; bu’n help mawr wrth fynd ati i adnewyddu ein heglwys newydd.”