James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys San Cynwyd, Llangynwyd

Mae Eglwys San Cynwyd yn eglwys o ddiddordeb hanesyddol ac wedi’i lleoli ym mhentref hardd Llangynwyd, ger Maesteg, o fewn esgobaeth Llandaf. Mae’r eglwys ei hun yn ganolog i fywyd y gymuned leol, ac yn ganolfan ar gyfer gwasanaethau, priodasau, angladdau, cyngherddau, a Gŵyl Gwiltio Flynyddol enwog.

Pan dderbyniwyd yr Adroddiad Pum Mlynedd diwethaf, gwelwyd fod y tywydd eithafol wedi achosi nifer o broblemau allanol, a diolch i sawl ymdrech codi arian a grantiau allanol, llwyddwyd i fynd ati i  gwblhau’r gwaith oedd yn rhaid ei wneud. Roedd y gwaith yn cynnwys trwsio ac adnewyddu nifer o lechi ar y to, trwsio’r plwm, glanhau’r cafnau, gosod peipiau landeri a chafnau newydd, ailbwyntio rhannau o waith carreg yr eglwys, gwyngalchu rhannau o’r waliau ac ailbaentio’r ffenestri a’r drysau.

Mae’r eglwys a’i haelodau yn ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am y grant i’w help mewn cyfnod anodd a phryderus, gyda thywydd dychrynllyd dros gyfnod y gaeaf ac yna’r sefyllfa anodd gyda’r coronafeirws. Fodd bynnag, mae’n braf iawn gallu adrodd fod y gwaith i gyd wedi’i gwblhau, gan amddiffyn adeiledd y lle a sicrhau fod yr aelodau a’r ymwelwyr yn gynnes a chlyd wrth ymuno yng ngweithgareddau’r eglwys.