James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys y Drindod Sanctaidd, Ystrad Mynach

Penderfynodd aelodau Eglwys y Drindod Sanctaidd yn Ystrad Mynach symud yr hen organ oddi yno, a phrynu un newydd digidol, a llwyddwyd i godi’r arian angenrheidiol drwy roddion a digwyddiadau codi arian. Cyn gosod yr organ newydd fodd bynnag, gwnaed cais am grant i adnewyddu ychydig o du mewn yr adeilad, gan gynnwys newid hyd rhai o’r seddi, ail-osod rhai o’r preniau llawr, adeiladu pared newydd, adeiladu a gosod drws mewnol newydd ac ail-addurno. O ganlyniad, mae gan yr eglwys festri fwy a glanach ac ystafell ddiogel i gadw pethau gwerthfawr, gan ganiatau i’r eglwys fod ar agor am gyfnodau hwy.