James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys Salem, Tonteg

Roedd Eglwys Salem, Tonteg yn ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am eu cefnogaeth. "Y llynedd, cawson ni drafferth gyda wal allanol y capel, uwchben hen boiler house y capel. Penderfynwyd dymchwel yr hen adeilad a gosod gwres trydan modern yn ei le, gwres canolog sy'n well i'r amgylchedd a llawer haws i'w ddefnyddio. Diolch i gefnogaeth yr Ymddiriedolaeth a chronfeydd eraill hefyd, mae wal y capel yn saff erbyn hyn, ac mae'r grwpiau cymunedol yn gallu defnyddio drws y festri unwaith eto. Hefyd, rydyn ni wedi creu iard newydd ble oedd yr hen foiler, ac ry’n ni eisoes wedi cael y pleser o weld y grŵp ieuenctid yn mwynhau gem o bêl-droed yna. Diolch am ein helpu ni i ddiweddaru'r capel er mwyn darparu gwasanaeth gwell i'n cymuned ni.”