James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys Sant Marc Gwenlli

Cyrhaeddodd yr organ ddechrau mis Mawrth 2022 ar ôl Taith Gerdded Noddedig lwyddiannus nôl ym mis Hydref 2021, cymorth gan Gyngor Sir Ceredigion, ac, wrth gwrs, grant hael oddi wrth yr Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen. Mae’r organ newydd yn galluogi’r aelodau i ganu emynau nad oeddem yn gallu eu canu o’r blaen oherwydd cyflwr yr hen organ. Hefyd, gan fod yr organ newydd yn gallu trawsosod cerddoriaeth, mae’n hwyluso’r canu gydag unrhyw gynulleidfa ac yn ei gwneud yn bosib chwarae cerddoriaeth o unrhyw genre, boed yn draddodiadol neu fodern.

Cynhaliwyd ‘Cyngerdd o Ddiolch’ yn yr eglwys nôl ym mis Ebrill 2022 ac roedd hi’n bleser clywed y talentau lleol o’r C.Ff.I. a’r gymuned leol gan gynnwys ‘recitals’ ar yr organ, yn ogystal â’r canu cynulleidfaol gyda’r eglwys yn llawn.

Mae’r organ newydd eisoes wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’r eglwys – yn gwella’r gwasanaethau arferol ar Ddydd Sul, ac wedi golygu fod yr eglwys yn gallu cynnal amryw o weithgareddau eraill; dros y misoedd diwethaf, cynhaliwyd priodas, bedyddiadau, angladd, cyngerdd i ddathlu penblwydd yr Eglwys yn 125 oed, a chwrdd diolchgarwch, ac mae RABI wedi bwcio’u cyngerdd Nadolig ar gyfer mis Rhagfyr. Unwaith i’r gymuned ddeall fod cerddoriaeth o safon uchel yn Eglwys Gwenlli, mae wedi creu rhyw fwrlwm newydd, gyda’r aelodau a’r gymuned leol yn awyddus i gynnal gweithgareddau. Diolch yn fawr i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am helpu i roi’r cyfle yma i Eglwys Gwenlli.