James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Capel y Nant, Clydach

Ffurfiwyd Capel y Nant yng Nghlydach pan ddaeth cynulleidfaoedd Capel Annibynwyr Hebron a Chapel Annibynwyr Carmel ac Eglwys Bresbyteraidd Salem at ei gilydd i sefydlu cynulleidfa newydd yn adeilad Carmel. Cafwyd grant gan Bantyfedwen i foderneiddio a gwella’r festri er mwyn ei defnyddio ar gyfer cyfarfodydd yr eglwys ac i fod ar gael at ddefnydd y gymuned. Mae datganiad cenhadol yr eglwys yn esiampl wych o’r math o weledigaeth y mae’r Ymddiriedolaeth yn awyddus i’w chefnogi: 

Eglwys Gymraeg yw Capel y Nant sy'n ceisio cynnal a hyrwyddo'r ffydd Gristnogol yng Nghlydach, Abertawe. Derbyniwn ein bod ar daith ysbrydol gan gredu bod y daith honno 
wedi'i selio ar gariad Duw, gras Iesu Grist, a chymdeithas yr Ysbryd. Gwnawn ein gorau fel eglwys i werthfawrogi a rhyddhau doniau pawb yn ein plith. Gyda chymorth neges Iesu ceisiwn herio anghyfiawnder yn y cylch, y genedl a'r byd.