James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Hope Church, Drenewydd

Nid oedd yr adeilad oedd gan Eglwys Hope yn y Drenewydd yn ddigonol ar gyfer gofynion yr eglwys, a chawsant grant sylweddol gan Bantyfedwen tuag at y gost o godi adeilad newydd. Roedd hon yn eglwys oedd yn ymrwymo’n gyson i weithgareddau cenhadol lleol a chenedlaethol, ac mewn asesiad a drefnwyd gan Gyngor Sir Powys ychydig flynyddoeddyn ôl, amcangyfrifwyd bod gwerth y gwaith gwirfoddol gan aelodau'r eglwys yn y gymuned leol dros £290,000. Mae'r gwaith adeiladu yn parhau i fynd yn ei flaen a gellir dilyn y gwaith a'r prosiect ar wefan yr eglwys.