James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys Sant Ioan yr Efengylydd, Treganna

Roedd Eglwys Sant Ioan angen trwsio llawr yr eglwys, prosiect oedd yn cynnwys adnewyddu, codi ac ail-osod blociau pren rhydd, adnewyddu ac ail-osod darnau o’r estyll, lleihau ochrau’r siambrau archwilio haearn a newid y pedwar gril haearn bwrw er mwyn iddynt orwedd yn daclus yn gyfwyneb â’r llawr. Cafodd y llawr cyfan ei sandio, ei staenio a’i lacro er mwyn sicrhau cymaint o wydnwch â phosib. Mae’r Eglwys yn awyddus i gynyddu ei chysylltiad â’r gymuned ac i wneud yr adeilad yn addas ar gyfer gwahanol ddigwyddiadau, ac mae’r llawr newydd wedi sicrhau fod y gofod yn ddiogel ac yn ddeniadol i’w ddefnyddio’n ehangach.