James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwysi

Mae Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn flynyddol yn cefnogi nifer fawr o eglwysi a chapeli ledled Cymru drwy gynnig grantiau iddynt wella ac adnewyddu eu hadeiladau. Roedd Syr David James, sylfaenydd Ymddiriedolaeth Pantyfedwen, yn awyddus iawn i gefnogi achosion crefyddol yng Nghymru, ond ar yr un pryd, roedd o’r farn fod gan Gymru lawer gormod o adeiladau eglwysig, bod angen llawer mwy o resymoli a rhannu, a bod gwir angen i’r enwadau gydweithio’n agosach.

Mae Ymddiriedolwyr Pantyfedwen yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn i drafod ceisiadau gan amrywiol eglwysi a chapeli (Mawrth, Gorffennaf, Tachwedd), a bydd angen i'r cais gyrraedd Swyddfa'r Ymddiriedolaeth o leiaf fis cyn y cyfarfod.  Yn unol â gweledigaeth y sylfaenydd, rhoddir blaenoriaeth i geisiadau lle mae’r awydd i wella ac adnewyddu adeilad yn gysylltiedig â datblygu bywyd a gwaith cenhadol yr eglwys, yn enwedig mewn cyd-destun eciwmenaidd. Disgwylir i’r eglwys gyfarfod yn rheolaidd ar y Sul, a bod ganddi tua hanner cant o aelodau yn gysylltiedig â hi.  

Os hoffech wneud cais am grant i EGLWYS, gofynnwn i chi ddarllen y canllawiau yn ofalus cyn gwneud cais. Gellir lawrlwytho'r canllawiau a'r ffurflen gais isod.

Canllawiau Eglwys

Ffurflen gais Eglwys