James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eisteddfodau

Mae Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn cefnogi nifer fawr o eisteddfodau bob blwyddyn, yn eisteddfodau mawr cenedlaethol ac eisteddfodau llai ledled Cymru. Rhoddir grantiau penodol i Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Eisteddfodau James Pantyfedwen, ac Eisteddfodau'r Urdd, ond gall unrhyw eisteddfod leol hefyd gyflwyno cais, ar yr amod bod yr eisteddfod naill ai wedi’i chofrestru fel elusen neu’n cael ei threfnu o dan adain corff sy’n elusen. Bydd cymorth ariannol yr Ymddiriedolaeth yn seiliedig ar ganran o’r arian gwobrau a dalwyd yn yr Eisteddfod flaenorol, ac nid oes modd ystyried unrhyw gostau eraill.
Mae Ymddiriedolwyr Pantyfedwen yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn i drafod ceisiadau gan amrywiol eisteddfodau (Mawrth, Gorffennaf, Tachwedd), a gofynnir i bob eisteddfod gyflwyno cais o leiaf fis cyn y cyfarfod. Rhaid bod yr Ymddiriedolwyr yn cael cyfle i ystyried y cais cyn dyddiad yr Eisteddfod.  Bydd angen cyflwyno copi o gyfrifon archwiliedig llawn a rhaglen swyddogol yr Eisteddfod flaenorol, a gofynnir am gydnabyddiaeth o’r cymorth a ddyfernir ar raglen yr Eisteddfod.

Os hoffech wneud cais am grant i EISTEDDFOD, gofynnwn i chi ddarllen y canllawiau yn ofalus cyn gwneud cais. Gellir lawrlwytho'r canllawiau a'r ffurflen gais isod.

Canllawiau Eisteddfod

Ffurflen Gais