Mae Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn cefnogi nifer fawr o fyfyrwyr uwchraddedig bob blwyddyn, boed y rheiny’n fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau Meistr o bob math neu’n fyfyrwyr PhD. Ar hyn o bryd, mae’r Ymddiriedolaeth yn dyfarnu grantiau tuag at gostau ffioedd yn unig, a hynny hyd at uchafswm o £5,000 mewn unrhyw achos. Bydd o leiaf 75% o grantiau myfyrwyr yn cael eu dyfarnu i fyfyrwyr uwchraddedig sy’n bwriadu astudio ym mhrifysgolion Cymru. Ystyrir ceisiadau ar gyfer unrhyw bwnc, ond rhaid i bob myfyriwr fodloni canllawiau’r Ymddiriedolaeth. Nid yw’r Ymddiriedolaeth yn gwahaniaethu ar unrhyw sail arall.
Y dyddiad cau i geisiadau ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau yn ystod y flwyddyn academaidd 2024-25 yw 31 Mai 2024, ac ni dderbynnir unrhyw gais hwyr.