James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Offer ac Adnoddau i Eglwysi

Mae Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn cynnig grantiau i helpu prynu offer neu adnoddau costus ar gyfer yr eglwys, offer megis sgriniau, offer technegol neu gerddorol, neu adnoddau ar gyfer prosiectau cydenwadol neu brosiectau fydd yn adeiladu gwell cyswllt â’r gymuned. Rhaid bod yr eglwys sy’n gwneud cais yn cynnal gwasanaethau cyson, ac yn rhan o strwythur enwadol yng Nghymru neu wedi’i chofrestru fel elusen ar wahân.

Mae Ymddiriedolwyr Pantyfedwen yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn i drafod ceisiadau, a hynny fel arfer ym mis Mawrth, mis Gorffennaf a mis Tachwedd. Bydd angen i'r cais gyrraedd Swyddfa'r Ymddiriedolaeth o leiaf fis cyn y cyfarfod.  

Os hoffech wneud cais am grant i brynu offer neu adnoddau i’ch eglwys, gofynnwn i chi ddarllen y canllawiau yn ofalus cyn gwneud cais. Gellir lawrlwytho'r canllawiau a'r ffurflen gais isod.

Canllawiau

Ffurflenni cais