James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Dechreuadau a Hanes Yr Ymddiriedolaeth

Yr Ymddiriedolaeth bresennol

Daeth Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen i fod ar y 1af o Ebrill 1998 pan sefydlwyd Cynllun newydd a dderbyniodd fendith y Comisiwn Elusennau. Ond mae'r Ymddiriedolaeth hon yn ddilyniant i ddwy ymddiriedolaeth flaenorol - Ymddiriedolaeth Catherine a'r Fonesig Grace James (sefydlwyd yn 1957) ac Ymddiriedolaeth John a Rhys Thomas James (sefydlwyd yn 1967). Sefydlwyd y ddwy ymddiriedolaeth gan y diweddar Syr D J James gyda'r bwriad o greu gwaddol parhaol er budd pobl Cymru. Rhoddwyd enwau ei fam (Catherine James) a'i wraig (y Fonesig Grace James) i'r ymddiriedolaeth gyntaf ac enwau ei dad (John James) a'i frawd (Rhys Thomas James) i'r ail.

Mae'r Cynllun Elusennol, ynghyd â’r Cynllun Lleol, ar gyfer yr Ymddiriedolaeth wedi eu seilio ar ddymuniadau a blaenoriaethau y diweddar Syr D J James, ond mae’r dogfennau hefyd yn adlewyrchu’r ffaith fod anghenion Cymru ychydig yn wahanol i’r hyn a welid pan sefydlwyd yr Elusennau. Ers 2015, mae’r Ymddiriedolaeth yn dehongli amcanion yr Ymddiriedolaeth drwy ddyfarnu grantiau i wahanol grwpiau, sef: 

1. myfyrwyr ar gyfer astudiaethau uwchraddedig;
2. eglwysi unigol ar gyfer gwelliannau ac atgyweiriadau i adeiladau eglwysig, gyda blaenoriaeth ar gyfer
    gwelliannau sy'n gysylltiedig â phrosiectau cenhadol lleol a help i brynu adnoddau neu offer;
3. Eisteddfodau;
4. Cyhoeddiadau ym maes crefydd, diwinyddiaeth ac athroniaeth;
5. Cyrsiau hyfforddi i weithwyr ac arweinwyr Cristnogol yng Nghymru.  

Gweler canllawiau manwl ar gyfer y gwahanol grwpiau o geisiadau o dan y penawdau perthnasol ar y wefan hon.

Y noddwr - Syr D J James

Ganwyd Syr David James James yn Llundain yn 1887 lle’r oedd y teulu yn cynnal busnes llaeth yn ardal Westminster. Bu’r blynyddoedd cynnar i'w frawd ac yntau yn gyfnod o iechyd bregus ac, o ganlyniad, penderfynodd y teulu symud yn ôl i Geredigion i’r lle yr oeddent wedi ymfudo ohono rai blynyddoedd ynghynt. Sefydlwyd cartref newydd ym Mhantyfedwen, tŷ ar gyrion pentref Pontrhydfendigaid. Ond, oherwydd trafferthion busnes yn Llundain, dychwelodd David James a'i dad i'r ddinas, a Llundain wedyn fu’n gartref parhaol i Syr David ac yn bencadlys i'w ddiddordebau busnes am weddill ei fywyd.

Roedd ei ddiddordebau busnes yn niferus ac yn amrywiol iawn, yn cynnwys llaeth, gwenith, bragu a bwydydd anifeiliaid. Ond cofir ef yn bennaf am ei ymwneud â sinemâu. Mentrodd i'r maes hwn yn 1920 wrth agor y 'super cinema' cyntaf yn Llundain (y Palmadium yn ardal Palmers Green) gyda lle i eistedd mwy na 2,000 o bobl. Ar un adeg, roedd yn berchennog ar dair ar ddeg o sinemâu, ac mae’n debyg mai’r mwyaf adnabyddus ohonynt oedd Stiwdio 1 a 2 yn Oxford Street.

Priododd Syr David â Grace Stevens o Faversham. Efallai mai’r ffaith na chawsant blant oedd un o’r rhesymau paham yr oedd Syr David yn awyddus i rannu ei gyfoeth gyda phobl Cymru. Yn ystod ei fywyd, cyfrannodd yn hael at nifer o achosion crefyddol ac addysgiadol. Yr oedd, yn ei flynyddoedd cynnar, wedi ystyried mentro i'r weinidogaeth Gristnogol, ac nid yw’n syndod, felly, iddo roi blaenoriaeth i gefnogi unigolion oedd am fod yn weinidogion, i eglwysi lleol, i geisio gwella cyflogau a phensiynau gweinidogion a hybu mwy o waith eciwmenaidd. Yn y cyswllt hwn, ymdrechodd yn galed i ddod a'r enwadau yng Nghymru at ei gilydd. Roedd hefyd o'r farn fod gan Gymru lawer gormod o adeiladau eglwysig a bod angen mwy o resymoli a rhannu. Proffwyd yn wir!

O ganlyniad i’w haelioni, dyfarnwyd iddo nifer o anrhydeddau. Derbyniodd radd LL D er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1957, fe’i gwnaed yn farchog yn 1959, a derbyniodd Ryddid Bwrdeistref Aberystwyth yn 1964.

Pan sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth gyntaf yn 1957 roedd Syr David yn glir ei weledigaeth mai pobl Cymru oedd i elwa. Gweinyddwyd yr Ymddiriedolaeth am y ddeng mlynedd gyntaf o'i swyddfeydd yn Llundain. Ond gwelodd hyn fel rhywfaint o baradocs, a bu wrthi yn chwilio am safle priodol yn Aberystwyth ar gyfer swyddfeydd newydd. Daeth o hyd i leoliad yn Stryd y Farchnad a chwaraeodd ran amlwg yn y broses o gynllunio ar gyfer yr adeilad newydd. Ond bu farw yn 1967 ychydig fisoedd cyn agoriad swyddogol y swyddfeydd yn 1968. Mae'r adeilad a gynllunwyd gan Syr David, ac a ariannwyd ganddo, yn gartref i waith yr Ymddiriedolaeth hyd heddiw.

Er na wnaeth Syr David erioed ymddeol yn swyddogol o’r byd busnes, roedd ei ymwneud â’r cyfan wedi lleihau cryn dipyn erbyn y diwedd. Treuliodd ef a’r fonesig Grace James y rhan fwyaf o’u blynyddoedd olaf yn byw yn Sutton Hall ger Barcombe, swydd Sussex, ond roeddent yn parhau i ymweld â Chymru a Llundain yn achlysurol. Bu farw’r Fonesig Grace James yn 1965.

Sir D J James   Lady Grace James