James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Cyhoeddiadau ym maes crefydd, diwinyddiaeth neu athroniaeth

Mae Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn gwahodd ceisiadau am grant i gyhoeddi deunyddiau ym maes crefydd, diwinyddiaeth, ac athroniaeth, pan na ddisgwylir i’r cyhoeddiadau hynny gael grantiau o ffynonellau cyhoeddi eraill, gan eu bod y tu allan i gylch gwaith y ffynonellau hynny (ffynonellau megis Cyngor Llyfrau Cymru neu gyrff academaidd neu addysgol eraill). Rhaid bod gan yr ymgeisydd gyfeiriad parhaol yng Nghymru am o leiaf dair blynedd cyn cyflwyno cais.

Mae Ymddiriedolwyr Pantyfedwen yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn i drafod ceisiadau, a hynny fel arfer ym mis Mawrth, mis Gorffennaf a mis Tachwedd. Bydd angen i'r cais gyrraedd Swyddfa'r Ymddiriedolaeth o leiaf fis cyn y cyfarfod.  

Os hoffech wneud cais am grant i helpu gyda chyhoeddi ym maes crefydd, diwinyddiaeth neu athroniaeth, gofynnwn i chi ddarllen y canllawiau yn ofalus cyn gwneud cais. Gellir lawrlwytho'r canllawiau a'r ffurflen gais isod.

Canllawiau

Ffurflenni cais