Mae Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn gwahodd ceisiadau am grant i helpu gyda chostau cyrsiau hyfforddi dwys i weinidogion, gweithwyr Cristnogol, blaenoriaid ac arweinwyr Cristnogol yng Nghymru, cyrsiau a fydd yn cyfrannu’n uniongyrchol at ddatblygiad gweinidogaeth a chenhadaeth. Rhaid i’r ymgeisydd fod yn aelod, neu’n ymwneud yn gyson, ag eglwys Gristnogol yng Nghymru.
Mae Ymddiriedolwyr Pantyfedwen yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn i drafod ceisiadau, a hynny fel arfer ym mis Mawrth, mis Gorffennaf a mis Tachwedd. Bydd angen i'r cais gyrraedd Swyddfa'r Ymddiriedolaeth o leiaf fis cyn y cyfarfod.
Os hoffech wneud cais am grant i helpu gyda chostau cwrs hyfforddi dwys, gofynnwn i chi ddarllen y canllawiau yn ofalus cyn gwneud cais. Gellir lawrlwytho'r canllawiau a'r ffurflen gais isod.