James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Adeiladau eglwysig

Mae Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn flynyddol yn cefnogi nifer fawr o eglwysi a chapeli ledled Cymru drwy gynnig grantiau iddynt wella ac adnewyddu eu hadeiladau. Mae modd cael ambell grant tuag at gynnal a chadw adeiladau, ond rhoddir blaenoriaeth i geisiadau lle mae’r awydd i wella ac adnewyddu adeilad yn gysylltiedig â datblygu bywyd a gwaith cenhadol yr eglwys. Rhoddir y flaenoriaeth uchaf i'r prosiectau hynny sy'n dangos cyswllt amlwg yn ymwneud â chynlluniau cenhadu’r eglwys yn y gymuned, a lle gwelir tystiolaeth o rannu adeiladau neu nifer o draddodiadau’n dod at ei gilydd i greu un eglwys unedig. Mae’r blaenoriaethau hyn wrth gwrs yn cydfynd â gweledigaeth sylfaenydd Pantyfedwen, sef Syr David James.

Dyma ambell enghraifft o eglwysi a dderbyniodd grantiau gan Bantyfedwen dros y ddegawd ddiwethaf yma.